Ynglŷn â’r Dôm Dawns

Mae’r Dôm Dawns yn brosiect cydweithredol newydd unigryw gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yr 4π Productions a Chapter, sy’n addo dewis y gwaith gorau o fyd dawns gyfoes Cymru a’i ddangos i gynulleidfaoedd mewn cyflwyniad arbennig 360 gradd.

Mae’r Dôm Dawns yn sinema hollgynhwysol 360 gradd cludadwy a ddatblygwyd er mwyn amgylchynu cynulleidfaoedd ac i ddarparu’r profiad dawns mwyaf arloesol yng Nghymru erioed.

Bydd y daith gyntaf yn cyflwyno tair ffilm ddawns newydd a thrawiadol a gomisiynwyd gan Coreo Cymru. Mae’r ffilmiau’n cynnwys coreograffi arobryn gan Earthfall, Tanja Raman a Sandra Harnisch Lacey, ar y cyd â thirluniau Cymreig trawiadol. Cafodd y cwbl ei saethu gan griw ffilm rhyngwladol a oedd yn cynnwys y gwneuthurwr ffilm nodedig, ac enillydd Oscar, Bill Mitchell.