Fulldome films

Mae Submergence yn drioleg arloesol newydd o ffilmiau dawns a gomisiynwyd gan Coreo Cymru, menter newydd a sefydlwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Cafodd ei chreu a’i chynhyrchu gan aelodau o grŵp 4π productions.

Mae trioleg Submergence yn cynnwys tair ffilm fer 5 munud o hyd a phob un yn cynnwys coreograffi comisiwn newydd sbon gan dri choreograffydd o fri rhyngwladol. Mae pob ffilm yn gydweithrediad gwirioneddol ac yn arddangos tirwedd amrywiol Cymru ynghyd â dawnsio cyfoes arloesol, cerddoriaeth gomisiwn newydd a delweddaeth arloesol.

Bydd taith Submergence yn cwmpasu cynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt o 31 Mehefin 2012 ymlaen.